Herio penderfyniad budd-dal (ailystyriaeth orfodol)

Printable version

1. Cymhwyster

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynglŷn â budd-daliadau, credydau treth neu gynhaliaeth plant gallwch ofyn i ni edrych ar y penderfyniad eto - gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’.

Mae gofyn am Ailystyriaeth Orfodol am ddim.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English) ac mewn fformat hawdd ei ddeall.

Gallwch wneud hyn os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi’n meddwl bod y swyddfa sy’n delio â’ch cais wedi gwneud camgymeriad neu wedi methu tystiolaeth bwysig
  • rydych yn anghytuno â’r rhesymau dros y penderfyniad
  • rydych am i ni edrych ar y penderfyniad eto

Ni ellir ailystyried rhai penderfyniadau. Gall eraill fynd yn syth i apêl. Bydd eich llythyr penderfyniad gwreiddiol yn dweud os yw hyn yn berthnasol i chi.

Fel arfer mae angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i ddyddiad y penderfyniad. Gallwch ofyn amdano ar ôl mis os oes gennych reswm da, er enghraifft os ydych wedi bod yn yr ysbyty neu wedi cael profedigaeth.

Budd-daliadau y mae hyn yn berthnasol iddynt

Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol am fudd-daliadu yn cynnwys:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr
  • Credyd Gofalwr
  • cynhaliaeth plant (a elwir weithiau yn gymorth plant’)
  • Cynllun Adfer Iawndal (yn cynnwys ceisiadau adfer NHS)
  • Cynllun Talu Mesotheliomia Ymledol
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
  • Taliad Costau Angladd
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
  • Lwfans Mamolaeth
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn
  • Credyd Cynhwysol (yn cynnwys taliadau o flaen llaw)
  • Taliad Tanwydd Gaeaf

2. Cyn i chi ddechrau

Sicrhewch eich bod yn deall y rheswm dros y penderfyniad cyn i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol. Bydd hyn yn eich helpu i esbonio pam rydych yn anghytuno.

Os ydych chi’n gofyn am ailystyriaeth orfodol, bydd rhywun yn edrych ar eich cais budd-dal llawn eto. Efallai bydd eich budd-dal yn stopio, aros yr un peth, cynyddu neu’n gostwng.

Deall y penderfyniad wnaethoch dderbyn

Os oes angen help arnoch i ddeall y rheswm dros eich penderfyniad budd-dal, ffoniwch y swyddfa budd-daliadau sy’n delio â’ch cais. Byddant yn gallu esbonio’r rheswm dros eich penderfyniad budd-dal ac ateb unrhyw gwestiynau.

Gallwch barhau i ofyn am ailystyriaeth orfodol ar ôl i chi siarad â’ch swyddfa budd-daliadau.

Os ydych chi eisiau esboniad ysgrifenedig

Gallwch ofyn am esboniad ysgrifenedig gan y swyddfa budd-daliadau sy’n delio â’ch cais – a elwir yn ‘ddatganiad ysgrifenedig o resymau’.

Nid oes angen i chi wneud hyn ar gyfer Taliad Annibyniaeth Bersonol - bydd eich llythyr penderfyniad yn cynnwys datganiad ysgrifenedig.

Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol o hyd, ond rhaid i chi wneud hyn o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad ar eich datganiad ysgrifenedig o resymau.

Cael help a chyngor

Gallwch gael cymorth a chyngor am ddim gan:

Gallwch hefyd ofyn am gyngor gan ymgynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.

3. Sut i ofyn am ailystyriaeth orfodol

Cysylltwch â’r swyddfa fudd-daliadau a roddodd y penderfyniad i chi. Gallwch gysylltu â nhw:

Mae’r manylion cyswllt ar eich llythyr penderfyniad.

Fel arfer mae angen i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol o fewn mis i’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad. Os ydych yn ysgrifennu, rhaid i’r llythyr neu’r ffurflen gyrraedd erbyn hynny.

Os nad yw’ch llythyr penderfyniad ganddoch, cysylltwch â’r swyddfa lle gwnaethoch gais am y budd-dal.

Beth mae angen i chi eu darparu 

Pan fyddwch yn gofyn am ailystyriaeth orfodol, mae angen i chi roi:

  • dyddiad y penderfyniad budd-daliadau gwreiddiol
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol

Esboniwch pa ran o’r penderfyniad sy’n anghywir a pham - gallwch anfon tystiolaeth i gefnogi’ch rhesymau.

Os ydych yn anfon tystiolaeth

Mae angen i unrhyw dystiolaeth a anfonwch gefnogi eich rhesymau dros pam fod y penderfyniad yn anghywir. Er enghraifft, gallai fod yn:

  • dystiolaeth feddygol newydd
  • adroddiadau neu gynlluniau gofal gan arbenigwyr, therapyddion neu nyrsys
  • cyfriflenni banc neu slipiau cyflog

Dylech ond cynnwys tystiolaeth nad ydych wedi ei hanfon eisoes.

Ysgrifennwch eich enw llawn, dyddiad geni a rhif Yswiriant Gwladol ar frig pob darn o dystiolaeth a’i anfon i’r swyddfa fudd-daliadau lle gwnaethoch gais am eich budd-dal.

Ni allwch hawlio am gost unrhyw dystiolaeth rydych yn talu amdani.

Peidiwch â chynnwys:

  • gwybodaeth gyffredinol am eich cyflwr - er enghraifft taflenni ffeithiau, tystysgrifau meddygol neu nodiadau salwch
  • cardiau apwyntiad neu lythyrau am apwyntiadau meddygol, oni bai na allech wneud cais am eich budd-dal oherwydd eich bod yn yr apwyntiad
  • llythyrau am brofion rydych chi i fod i’w cael
  • tocynnau bws neu drên i brofi eich bod wedi gwneud taith

Os nad ydych yn siwr pa dystiolaeth i’w hanfon, darllenwch y canllawiau ar gyfer y ffurflen ar gyfer gofyn am ailystyriaeth orfodol. Gallwch hefyd ffonio’r rhif ffôn ar eich llythyr penderfyniad.

Gwneud cais ar ôl mis

Gallwch ofyn am ailystyriaeth orfodol ar ôl hyn ond rhaid iddo fod am reswm da, er enghraifft os ydych wedi bod yn yr ysbyty neu wedi cael profedigaeth. Rhaid i chi egluro pam fod eich cais yn hwyr.

Ffoniwch y rhif ffôn ar eich llythyr penderfyniad yn gyntaf.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd y swyddfa fudd-daliadau a roddodd y penderfyniad budd-dal gwreiddiol i chi yn ei ailystyried.

Pan fyddant wedi ei ailystyried,  byddwch yn cael llythyr o’r enw ‘hysbysiad ailystyriaeth orfodol’ yn dweud wrthych a ydynt wedi newid y penderfyniad.

Bydd yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol yn esbonio’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw a’r dystiolaeth y seiliwyd ef arni.

4. Os ydych chi'n anghytuno â'r canlyniad

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant os ydych chi’n credu bod y penderfyniad yn yr hysbysiad ailystyriaeth orfodol yn anghywir. Mae’r tribiwnlys wedi’i gefnogi gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (HMCTS) ac yn annibynnol o’r llywodraeth.

Bydd beirniad yn gwrando ar ddau ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad

Fel arfer mae angen i chi apelio o fewn mis i ddyddiad eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol.

Ni allwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant hyd nes i chi gael eich hysbysiad ailystyriaeth orfodol.