Sut i adnewyddu credydau treth

Os ydych yn hawlio credydau treth, bydd pecyn adnewyddu yn cael ei anfon atoch. Bydd y pecyn yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi wneud unrhyw beth er mwyn adnewyddu’ch credydau treth.

Rhowch wybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau neu os yw’ch manylion yn anghywir.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os oes llinell ddu ar eich pecyn adnewyddu, a’r geiriau ‘gwiriwch nawr’ wedi’u nodi arno

Bydd angen i chi wirio’ch manylion. Os yw’r manylion yn gywir, does dim rhaid i chi wneud dim byd. Caiff eich credydau treth eu hadnewyddu’n awtomatig.

Bydd eich pecyn adnewyddu yn rhoi gwybod i chi faint y cewch eich talu eleni – dyma’ch ‘hysbysiad o ddyfarniad’. Efallai y bydd yn rhaid i chi ddangos eich hysbysiad o ddyfarniad er mwyn cael budd-daliadau penodol.

Os oes llinell goch ar eich pecyn adnewyddu, a’r geiriau ‘atebwch nawr’ wedi’u nodi arno

Bydd angen i chi adnewyddu’ch credydau treth erbyn y dyddiad a ddangosir ar eich pecyn adnewyddu. I’r rhan fwyaf o bobl, y dyddiad yw 31 Gorffennaf 2023.

Ar ôl 6 Ebrill byddwch yn cael taliadau amcangyfrifedig (‘amodol’) hyd nes eich bod yn adnewyddu. Efallai y bydd CThEF yn talu swm gwahanol i chi, yn seiliedig ar wybodaeth newydd gan eich cyflogwr neu’ch darparwr pensiwn.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer adnewyddu

Anfonir datganiad (TC607) atoch. Os byddwch yn cysylltu â CThEF cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar y datganiad, efallai y bydd eich hawliad am gredydau treth yn cael ei adfer ac na fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth yn ôl.

Os byddwch yn cysylltu â CThEF ar ôl i’r cyfnod o 30 diwrnod ddod i ben, bydd disgwyl i chi esbonio’r rhesymau dros yr oedi – hynny yw, a oes ‘rheswm da’ gennych – cyn y gellir ystyried adfer eich hawliad.

Os caiff eich hawliad ei adfer, cewch wybod gan CThEF faint y byddwch yn ei gael cyn pen 8 wythnos i’ch cais i adnewyddu ddod i law.

Os na fyddwch yn cysylltu â CThEF o gwbl ar ôl cael y datganiad, bydd eich taliadau credydau treth yn dod i ben a bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r credydau treth yr ydych wedi’u cael ers 6 Ebrill 2023.

Os bydd CThEF yn stopio’ch taliadau, ni allwch wneud hawliad newydd am gredydau treth.

Yn lle hynny, gallwch wneud cais am y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • Credyd Cynhwysol, os ydych chi (neu’ch partner) o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • Credyd Pensiwn, os ydych chi (a’ch partner) dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Cysylltu â CThEF

Cysylltwch â CThEF os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer adnewyddu’ch credydau treth
  • rydych wedi adnewyddu’ch credydau treth ac mae camgymeriad ar eich hysbysiad o ddyfarniad

Bydd angen y canlynol arnoch: