Ad-dalu eich benthyciad myfyrwyr

Printable version

1. Trosolwg

Mae angen i chi dalu’n ôl:

  • Benthyciadau Ffioedd Dysgu
  • Benthyciadau Cynhaliaeth
  • Benthyciadau Ôl-raddedig

Nid oes angen i chi ad-dalu cyllid arall i fyfyrwyr, er enghraifft grantiau a bwrsariaethau. Bydd yn dal angen i chi ad-dalu unrhyw ordaliadau os byddwch yn derbyn mwy o unrhyw fath o gyllid i fyfyrwyr nag y mae gennych hawl iddynt.

Bydd yn dal angen i chi ad-dalu eich benthyciad myfyriwr os ydych chi’n gadael eich cwrs yn gynnar.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mae pryd y byddwch chi’n dechrau ad-dalu’ch benthyciad a faint rydych chi’n ei dalu yn dibynnu ar pa gynllun ad-dalu rydych chi arno.  

Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol yn eich cyfrif ar-lein fel y gallwch gael negeseuon am eich benthyciad.

Sut i ad-dalu

Mae sut rydych yn ad-dalu eich benthyciad yn dibynnu a ydych yn gyflogedig neu hunan-gyflogedig.

Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol yn eich cyfrif ar-lein a gyda cherdyn, trosglwyddiad banc neu siec.

Cadwch eich slipiau cyflog a’ch P60 ar gyfer eich cofnodion - bydd eu hangen arnoch os ydych am gael ad-daliad.

Os byddwch yn gadael y DU am fwy na 3 mis

Rhaid i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth i roi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) eich bod wedi gadael y Deyrnas Unedig.

Bydd angen i chi barhau i ad-dalu’ch benthyciad oni bai eich bod yn darparu tystiolaeth bod eich incwm yn is na’r trothwy.

Gallech gronni ól-ddyledion os na fyddwch chi’n diweddaru eich manylion. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r rhain hyd yn oed os yw’ch incwm yn is na’r trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu.

Mewngofnodi

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein os oes gennych chi un yn barod.

2. Pa gynllun ad-dalu rydych chi arno

Pan fyddwch chi’n dechrau ad-dalu’ch benthyciad a faint rydych chi’n ei ad-dalu yn dibynnu ar eich cynllun ad-dalu.

Os nad ydych chi’n siŵr pa gynllun ad-dalu rydych chi arno, gallwch chi fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein i’w wirio.

Ni allwch ddewis eich cynllun ad-dalu. Os oes gennych chi fwy nag un benthyciad, fe allech chi fod ar gynlluniau gwahanol.

Os gwnaethoch gais i Student Finance England

Mae’r cynllun ad-dalu rydych chi arno’n dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch chi ddechrau eich cwrs a pha fath o gwrs y gwnaethoch chi ei astudio.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar neu ar ôl Dydd Mawrth, 1 Awst 2023

Byddwch ar Gynllun 5 os:

  • ydych chi’n astudio cwrs israddedig

  • ydych yn astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)

  • ydych yn cymryd Benthyciad Dysgwr Uwch

Byddwch ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig os ydych yn astudio cwrs meistr neu ddoethuriaeth ôl-raddedig.

Byddwch ar Gynllun 2 os byddwch yn cymryd Benthyciad Cwrs Byr Addysg Uwch.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs rhwng 1 Medi 2012 a 31 Gorffennaf 2023

Byddwch ar Gynllun 2 os:

Byddwch ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig os ydych yn astudio cwrs meistr neu ddoethuriaeth ôl-raddedig.

Os dechreuoch eich cwrs cyn 1 Medi 2012

Rydych chi ar Gynllun 1.

Os gwnaethoch gais i Gyllid Myfyrwyr Cymru

Mae’r cynllun ad-dalu rydych chi arno’n dibynnu ar ba bryd y gwnaethoch chi ddechrau eich cwrs a pha fath o gwrs y gwnaethoch chi ei astudio.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2012

Rydych chi ar:

  • Cynllun 2 os buoch yn astudio cwrs israddedig neu Dystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)

  • cynllun Benthyciad Ôl-raddedig os buoch yn astudio cwrs meistr neu ddoethuriaeth ôl-raddedig

Os dechreuoch eich cwrs cyn 1 Medi 2012

Rydych chi ar Gynllun 1.

Os gwnaethoch gais i Student Awards Agency Scotland

Rydych chi ar Gynllun 4, p’un a wnaethoch chi astudio cwrs israddedig neu gwrs ôl-raddedig.

Os gwnaethoch gais i Student Finance Northern Ireland

Rydych chi ar Gynllun 1, p’un a wnaethoch chi astudio cwrs israddedig neu gwrs ôl-raddedig.

Os ydych chi’n meddwl eich bod ar y cynllun anghywir

Gwiriwch pa gynllun rydych chi arno trwy fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein a lawrlwytho eich ‘llythyr math cynllun gweithredol’. Yna gofynnwch i’ch cyflogwr pa gynllun rydych chi arno.

Os yw’n wahanol i’r cynllun yn eich llythyr, dangoswch hwn i’ch cyflogwr fel y gallant ddiweddaru eich manylion cyflogres. Gallwch gael ad-daliad os gwnaethoch dalu gormod o’ch benthyciad yn ôl oherwydd eich bod ar y math anghywir o gynllun.

3. Pryd fyddwch yn dechrau ad-dalu

Byddwch ond yn ad-dalu’ch benthyciad myfyriwr pan fydd eich incwm dros y swm trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu. Eich incwm yw’r swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys pethau fel bonysau a goramser) cyn treth a didyniadau eraill.

Mae’r symiau trothwy yn newid ar 6 Ebrill bob blwyddyn.

Y cynharaf y byddwch yn dechrau ad-dalu yw:

  • y mis Ebrill ar ôl i chi adael eich cwrs

  • y mis Ebrill 4 blynedd ar ôl i’r cwrs ddechrau os ydych yn astudio’n rhan-amser neu’n gwneud cwrs Doethurol Ôl-raddedig a bod eich cwrs yn hwy na 4 blynedd

  • Ebrill 2026 os ydych ar Gynllun 5

Daw eich ad-daliadau i ben yn awtomatig os naill ai:

  • byddwch yn rhoi’r gorau i weithio

  • mae eich incwm yn mynd o dan y trothwy

Byddwch yn gwneud ad-daliad os bydd eich incwm yn mynd dros y trothwy wythnosol neu fisol ar gyfer eich cynllun (er enghraifft, os telir bonws neu oramser i chi). Gallwch ofyn am ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn dreth os oedd eich incwm blynyddol yn llai na’r trothwy blynyddol ar gyfer eich cynllun.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr Cynllun 1

Byddwch ond yn ad-dalu pan fydd eich incwm dros £480 yr wythnos, £2,082 y mis neu £24,990 y flwyddyn.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr Cynllun 2

Byddwch ond yn ad-dalu pan fydd eich incwm dros £524 yr wythnos, £2,274 y mis neu £27,295 y flwyddyn.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr Cynllun 4

Byddwch ond yn ad-dalu pan fydd eich incwm dros £603 yr wythnos, £2,616 y mis neu £31,395 y flwyddyn.

Os oes gennych fenthyciad myfyriwr Cynllun 5

Byddwch ond yn ad-dalu pan fydd eich incwm dros £480 yr wythnos, £2,083 y mis neu £25,000 y flwyddyn.

Os ydych ar gynllun ad-dalu Benthyciad Ôl-raddedig

Os cymeroch Fenthyciad Meistr neu Fenthyciad Doethurol, dim ond pan fydd eich incwm dros £403 yr wythnos, £1,750 y mis neu £21,000 y flwyddyn y byddwch yn ad-dalu.

Ad-daliadau cynnar

Nid oes cosb am dalu rhywfaint neu’r cyfan o’ch benthyciad yn gynnar.

4. Faint fyddwch chi’n ad-dalu

Mae faint fyddwch chi’n ad-dalu yn dibynnu ar eich incwm - y swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys pethau fel bonysau a goramser) cyn treth a didyniadau eraill.

Byddwch yn ad-dalu canran o’ch incwm dros y ‘trothwy’ ar gyfer eich math o fenthyciad, yn dibynnu ar ba mor aml y cewch eich talu.

Mae’r trothwyon yn wahanol ar gyfer pob math o gynllun.

Math o gynllun Trothwy blynyddol Trothwy misol Trothwy wythnosol
Cynllun 1 £24,990 £2,082 £480
Cynllun 2 £27,295 £2,274 £524
Cynllun 4 £31,395 £2,616 £603
Cynllun 5 £25,000 £2,083 £480
Benthyciad Ôl-raddedig £21,000 £1,750 £403

Byddwch yn ad-dalu naill ai:

  • 9% o’ch incwm dros y trothwy os ydych ar Gynllun 1, 2, 4 neu 5

  • 6% o’ch incwm dros y trothwy os ydych ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig

Mae’r enghreifftiau’n dangos faint y byddech chi’n ei ad-dalu yn dibynnu ar eich incwm a’ch math o gynllun:

Enghraifft

Rydych ar Gynllun 1 ac mae gennych incwm o £33,000 y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu £2,750 bob mis.

Cyfrifiad:

£2,750 – £2,082 (eich incwm llai trothwy Cynllun 1) = £668

9% o £668 = £60.12

Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu bob mis fyddai £60.

Enghraifft

Rydych ar Gynllun 4 ac mae gennych incwm o £36,000 y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu £3,000 bob mis.

Cyfrifiad:

£3,000 – £2,616 (eich incwm llai trothwy Cynllun 4) = £384

9% o £384 = £34.56

Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu bob mis fyddai £34.

Os bydd eich incwm yn newid yn ystod y flwyddyn

Byddwch yn gwneud ad-daliad os bydd eich incwm yn mynd dros y trothwy wythnosol neu fisol ar gyfer eich cynllun (er enghraifft, os telir bonws neu oramser i chi). Gallwch ofyn am ad-daliad ar ddiwedd y flwyddyn dreth os yw eich incwm blynyddol yn llai na’r trothwy blynyddol ar gyfer eich cynllun.

Llog

Mae faint o log a godir arnoch yn dibynnu ar ba fath o gynllun yr ydych arno. Faint y codir arnoch ar hyn o bryd:

  • 6.25% os ydych chi ar Gynllun 1
  • 7.8% os ydych chi ar Gynllun 2
  • 6.25% os ydych chi ar Gynllun 4
  • 7.8% os ydych chi ar Gynllun 5
  • 7.8% os ydych chi ar gynllun Benthyciad Ôl-raddedig

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch:

Os ydych ar fwy nag un math o gynllun

Mae faint y byddwch yn ei ad-dalu yn dibynnu ar ba un o’ch mathau o gynllun sydd â’r trothwy ad-dalu isaf ac a oes gennych Fenthyciad Ôl-raddedig ai peidio.

Os nad oes gennych Fenthyciad Ôl-raddedig

Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm dros y trothwy isaf allan o’r mathau o gynlluniau sydd gennych. Dim ond un ad-daliad a gymerir bob tro y cewch eich talu, hyd yn oed os ydych ar fwy nag un math o gynllun.

Enghraifft

Rydych ar Gynllun 1 a Chynllun 2 ac mae gennych incwm o £26,400 y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu £2,200 bob mis. Mae hyn dros drothwy Cynllun 1 o £2,082 ond o dan drothwy Cynllun 2 o £2,274.

Byddwch yn ad-dalu 9% o’ch incwm dros £2,082 y mis oherwydd dyna’r trothwy isaf allan o’r mathau o gynlluniau sydd gennych.

Cyfrifiad:

£2,200 – £2,082 (eich incwm llai’r trothwy isaf) = £118

9% o £118 = £10.62

Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu bob mis fyddai £10.

Pe bai eich incwm yn mynd dros drothwy Cynllun 2, dim ond 9% o’ch incwm dros drothwy Cynllun 1 y byddech yn ei ad-dalu o hyd. Ni fyddai’n rhaid i chi wneud ad-daliad ar wahân tuag at eich benthyciad Cynllun 2.

Os oes gennych Fenthyciad Ôl-raddedig

Byddwch yn ad-dalu 6% o’ch incwm dros y trothwy Benthyciad Ôl-raddedig (£21,000 y flwyddyn) a 9% o’ch incwm dros y trothwy isaf ar gyfer unrhyw fathau eraill o gynllun sydd gennych.

Enghraifft

Mae gennych Fenthyciad Ôl-raddedig a benthyciad Cynllun 2 ac mae gennych incwm o £28,800 y flwyddyn, sy’n golygu eich bod yn cael eich talu £2,400 bob mis. Mae hyn dros y trothwy Benthyciad Ôl-raddedig o £1,750 a throthwy Cynllun 2 o £2,274.

Cyfrifiad:

£2,400 – £1,750 (eich incwm llai’r trothwy Benthyciad Ôl-raddedig) = £650
6% o £650 = £39

£2,400 – £2,274 (eich incwm llai trothwy Cynllun 2) = £126
9% o £126 = £11

Mae hyn yn golygu mai’r swm y byddech yn ei ad-dalu bob mis fyddai £50.

Os oes gennych fwy nag un swydd

Byddwch ond yn gwneud ad-daliadau o swyddi lle cewch eich talu dros y trothwy ar gyfer eich math o gynllun, nid eich incwm cyfunol.

Enghraifft

Mae gennych fenthyciad Cynllun 1 ac mae gennych 2 swydd. Cyn treth a didyniadau eraill, cewch £1,000 y mis o un swydd ac £800 y mis am y llall.

Ni fydd yn rhaid i chi wneud ad-daliadau oherwydd nad yw’r naill na’r llall yn uwch na’r trothwy o £2,082 y mis.

Enghraifft

Mae gennych fenthyciad Cynllun 2 ac mae gennych 2 swydd. Cyn treth a didyniadau eraill, cewch £2,300 y mis o un swydd ac £500 y mis am y llall.

Byddwch ond yn gwneud ad-daliadau ar yr incwm o’r swydd sy’n talu £2,300 y mis i chi oherwydd ei fod yn uwch na’r trothwy o £2,274.

Os ydych yn hunangyflogedig

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo faint y byddwch yn ei ad-dalu bob blwyddyn o’ch Ffurflen Dreth. Bydd eich ad-daliadau yn seiliedig ar eich incwm am y flwyddyn gyfan.

Os ydych eisoes wedi gwneud ad-daliadau o gyflog, bydd CThEF yn eu didynnu o’r swm y mae’n rhaid i chi ei ad-dalu.

5. Sut i ad-dalu

Bydd eich ad-daliadau’n cael eu tynnu o’ch cyflog ar yr un pryd â threth ac Yswiriant Gwladol os ydych yn weithiwr. Bydd eich slipiau cyflog yn dangos faint sydd wedi’i ddidynnu. Dylech sicrhau bod eich cyflogwr wedi eich cynnwys ar y cynllun ad-dalu cywir.

Rydych yn dechrau ad-dalu pan fydd eich incwm yn fwy na’r isafswm.

Nid oes cosb os byddwch yn gwneud ad-daliadau ychwanegol i dalu rhywfaint neu’r cyfan o’ch benthyciad yn gynnar.

Os ydych yn hunangyflogedig

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn cyfrifo faint rydych chi’n ei dalu o’ch ffurflen dreth. Rydych yn talu ar yr un pryd ag y byddwch yn talu eich treth.

Os ydych yn gyflogai a’ch bod yn llenwi ffurflen dreth

Os byddwch yn ennill dros yr isafswm, bydd eich cyflogwr yn tynnu ad-daliadau benthyciad o’ch cyflog.

Gwiriwch eich slipiau cyflog neu P60 i weld faint o’ch benthyciad rydych wedi’i ad-dalu yn ystod y flwyddyn dreth. Bydd angen i chi gynnwys y wybodaeth hon pan fyddwch yn llenwi eich Ffurflen Dreth.

Mae’r flwyddyn dreth yn rhedeg o 6 Ebrill hyd at 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol.

Os byddwch yn gadael y DU am fwy na 3 mis

Rhaid i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth i roi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) eich bod wedi gadael y Deyrnas Unedig.

Bydd angen i chi barhau i ad-dalu’ch benthyciad oni bai eich bod yn darparu tystiolaeth bod eich incwm yn is na’r trothwy.

Os na fyddwch chi’n diweddaru eich manylion, gallech gronni ól ddyledion ar eich cyfrif. Bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r rhain hyd yn oed os yw’ch incwm yn is na’r trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu. Bydd angen i chi ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion ar wahân i’ch ad-daliadau misol.

I sicrhau eich bod yn talu’r swm cywir yn ôl, bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth pob blwyddyn.

Trothwyon ad-dalu ar gyfer gwahanol wledydd

Mae’r rheolau ar gyfer ad-dalu yr un fath ag yn y DU, ar wahân i drothwyon ad-dalu gwahanol ar gyfer pob gwlad.

Os ydych chi dramor, mae symiau eich ad-daliad yn seiliedig ar:

Unwaith y bydd SLC wedi dweud wrthych faint sydd angen i chi ei ad-dalu, gallwch wneud ad-daliadau:

  • trwy eich cyfrif ar-lein

  • trwy Drosglwyddiad Banc Rhyngwladol (IBAN)

Cyfrif ar-lein

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein i:

  • wneud un taliad neu sefydlu taliadau cerdyn cylchol gan ddefnyddio cerdyn debyd rhyngwladol

  • sefydlu debyd uniongyrchol

Gallwch hefyd ddefnyddio eich cyfrif ar-lein i ddiweddaru eich manylion cyswllt a gwneud ad-daliadau ychwanegol.

Trosglwyddiad Banc Rhyngwladol

I drosglwyddo arian o gyfrif banc y tu allan i’r DU, defnyddiwch y manylion canlynol:

IBAN: GB37NWBK60708010027254
SWIFT: NWBKGB2L
NatWest Government Banking Team
NatWest Customer Service Centre
Brampton Road
Newcastle-under-Lyme
Swydd Stafford
ST5 0QX

Defnyddiwch un o’r rhain fel eich cyfeirnod:

  • cyfeirnod cwsmer

  • cyfeirnod grant (os yw ar gyfer ad-daliad grant)

Gwirio eich ad-daliadau

Gallwch wirio eich ad-daliadau a balans yn eich:

Os bydd eich manylion cyswllt yn newid, rhaid i chi eu diweddaru yn eich cyfrif ar-lein.

Osgowch dalu mwy nag sydd arnoch chi

Os ydych bron wedi ad-dalu’ch benthyciad, efallai y gallwch wneud eich ad-daliadau terfynol trwy ddebyd uniongyrchol yn hytrach nag o’ch cyflog.

Mae hyn yn sicrhau na fydd eich cyflogwr yn cymryd mwy nag sydd arnoch chi ar ddamwain.

Bydd SLC yn cysylltu â chi ym mlwyddyn olaf eich ad-daliadau benthyciad i roi gwybod i chi sut i sefydlu debyd uniongyrchol.

Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol yn eich cyfrif ar-lein.

6. Gwneud ad-daliadau ychwanegol

Ad-daliad Gallwch ddewis gwneud ad-daliadau ychwanegol tuag at eich benthyciad myfyriwr. Mae’r rhain yn ychwanegol at yr ad-daliadau y mae’n rhaid i chi eu gwneud pan fydd eich incwm dros y trothwy ar gyfer eich cynllun ad-dalu. Nid oes cosb os byddwch yn gwneud ad-daliadau ychwanegol.

Ni allwch gael ad-daliad o unrhyw ad-daliadau ychwanegol a wnewch.

Efallai na fyddwch yn elwa o wneud ad-daliadau ychwanegol oherwydd y bydd eich benthyciad yn cael ei dileu ar ddiwedd cyfnod y benthyciad. Cyn i chi wneud ad-daliad ychwanegol, gwiriwch pryd y bydd eich benthyciad yn cael ei ddileu.

Dylech siarad â chynghorydd ariannol os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud ad-daliadau ychwanegol ai peidio.

Os byddwch yn penderfynu gwneud ad-daliad ychwanegol, gallwch ddewis sut y caiff ei gymhwyso i’ch benthyciad. Er enghraifft, gallwch ei ddefnyddio i leihau cyfanswm balans eich benthyciad neu i leihau balans cynllun penodol (os oes gennych fwy nag un cynllun).

Os na fyddwch yn dewis sut y cymhwysir yr ad-daliad, bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (SLC) yn penderfynu sut y’i cymhwysir ar eich rhan.

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn o Gymru, efallai y byddwch yn gallu cael £1,500 o’ch Benthyciad Cynhaliaeth wedi’i ddileu.

Gwneud ad-daliad heb fewngofnodi i gyfrif

Gallwch wneud ad-daliad â cherdyn tuag at eich benthyciad neu fenthyciad rhywun arall heb fewngofnodi i gyfrif ar-lein.

Mae angen cyfenw a chyfeirnod cwsmer y person arnoch.

Gwneud ad-daliadau ychwanegol o’r DU

Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol:

  • trwy eich cyfrif ar-lein

  • trwy drosglwyddiad banc

  • trwy siec

Cyfrif ar-lein

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein i:

  • wneud ad-daliad gan ddefnyddio cerdyn debyd

  • sefydlu debyd uniongyrchol

Trosglwyddiad banc

I wneud trosglwyddiad banc neu sefydlu archeb sefydlog o gyfrif banc yn y DU rhaid i chi ddefnyddio’r manylion banc canlynol:

Enw’r cyfrif: Student Loans Company
Cod didoli: 60 70 80
Rhif cyfrif: 10027254

Defnyddiwch un o’r rhain fel eich cyfeirnod:

  • cyfeirnod cwsmer
  • cyfeirnod grant (os yw ar gyfer ad-daliad grant)

Ni fydd eich taliad yn cael mynd tuag at eich cyfrif benthyciad myfyriwr os na ddefnyddiwch eich cyfeirnod.

Siec

I dalu gyda siec gwnewch eich siec yn daladwy i Student Loans Company Ltd a’i hanfon at:

Finance Department
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF

Mae angen i chi ysgrifennu eich cyfeirnod cwsmer ar gefn eich siec. Os na wnewch chi hyn, ni fydd eich taliad yn cael mynd tuag at eich cyfrif benthyciad myfyriwr.

Mae’n cymryd mwy o amser i brosesu sieciau na thaliadau a wneir gyda cherdyn debyd neu drosglwyddiad banc. Bydd eich siec yn cael ei hôl-ddyddio felly ni fyddwch yn cronni llog ychwanegol oherwydd yr oedi.

Gwnewch ad-daliadau ychwanegol o dramor

Gallwch wneud ad-daliadau ychwanegol:

  • trwy eich cyfrif ar-lein

  • trwy Drosglwyddiad Banc Rhyngwladol (IBAN)

Cyfrif ar-lein

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein i:

  • wneud un taliad neu sefydlu taliadau cerdyn cylchol gan ddefnyddio cerdyn debyd rhyngwladol

  • sefydlu debyd uniongyrchol

Trosglwyddiad Banc Rhyngwladol

I drosglwyddo arian o gyfrif banc y tu allan i’r DU, defnyddiwch y manylion canlynol:

IBAN: GB37NWBK60708010027254
SWIFT: NWBKGB2L
NatWest Government Banking Team
NatWest Customer Service Centre
Brampton Road
Newcastle-under-Lyme
Swydd Stafford
ST5 0QX

Defnyddiwch un o’r rhain fel eich cyfeirnod:

  • cyfeirnod cwsmer

  • cyfeirnod grant (os yw ar gyfer ad-daliad grant)

Ni fydd eich taliad yn cael mynd tuag at eich cyfrif benthyciad myfyriwr os na ddefnyddiwch eich cyfeirnod.

Talu eich benthyciad yn llawn

Ffoniwch neu cysylltwch â SLC ar gyfryngau cymdeithasol i gael gwybod:

  • y cyfanswm sy’n ddyledus gennych (gelwir hyn yn ‘swm y setliad’)

  • y dyddiad y mae angen i chi dalu erbyn (gelwir hyn yn ‘ddyddiad setlo’)

Bydd angen eich slip cyflog diweddaraf arnoch os ydych yn gyflogedig.

Unwaith y byddwch yn gwybod y cyfanswm sy’n ddyledus gennych, gallwch dalu â cherdyn debyd dros y ffôn, trosglwyddiad banc neu siec.

Os na fyddwch yn talu swm y setliad erbyn y dyddiad setlo, bydd angen i chi gysylltu â SLC eto. Mae hyn oherwydd y gallai’r swm sy’n ddyledus gennych fod wedi newid. Dim ond slipiau cyflog diweddar neu gyfrifiadau ers i chi ffonio ddiwethaf y bydd angen i chi eu darparu.

Cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Ffôn: 0300 100 0611 (Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban)
Ffôn: +44 (0)141 243 3660 (tu allan i’r DU)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm

Ffôn: 0300 100 0370 (Cymru)
Dydd Llun i ddydd Gwener – 8am i 6pm (ddim ar agor ar wyliau banc)

Dysgwch am daliadau ar gyfer galwadau

7. Cael ad-daliad

Gallwch ofyn am ad-daliad os:

  • ydych chi wedi talu mwy na’r cyfanswm sy’n ddyledus gennych
  • oedd eich incwm blynyddol o dan y trothwy
  • dechreuoch wneud ad-daliadau cyn bod angen
  • ydych wedi ad-dalu mwy nag sydd angen oherwydd bod eich cyflogwr wedi eich rhoi ar y cynllun ad-dalu anghywir

Ni allwch gael ad-daliad am daliadau ychwanegol.

Os byddwch yn ad-dalu mwy nag sy’n ddyledus gennych

Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn dweud wrth eich cyflogwr i roi’r gorau i gymryd ad-daliadau o’ch cyflog pan fyddwch wedi ad-dalu’ch benthyciad yn llawn. Gall gymryd tua 4 wythnos i ddidyniadau cyflog ddod i ben.

Mae hyn yn golygu y gallwch dalu mwy yn ôl nag sydd arnoch chi.

Gallwch osgoi talu mwy nag sy’n ddyledus drwy newid eich taliadau i Ddebyd Uniongyrchol ym mlwyddyn olaf eich ad-daliadau. Cadwch eich manylion cyswllt yn gyfredol yn eich cyfrif ar-lein fel y gall SLC roi gwybod i chi sut i sefydlu hyn.

Os ydych wedi talu gormod bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn ceisio:

  • cysylltu â chi i ddweud wrthych sut i gael ad-daliad
  • eich ad-dalu’n awtomatig (bydd hyn yn ymddangos yn eich cyfrif banc fel ‘SLC Receipts’)

Gallwch wirio balans eich benthyciad yn eich cyfrif ar-lein.

Os ydych wedi gordalu a heb glywed gan SLC gallwch ofyn iddynt am ad-daliad.

Os oedd eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy

Eich incwm yw’r swm rydych yn ei ennill (gan gynnwys pethau fel bonysau a goramser) cyn treth a didyniadau eraill.

Gallwch ofyn am ad-daliad os gwnaethoch ad-daliadau ond bod eich incwm dros y flwyddyn dreth gyfan (6 Ebrill i 5 Ebrill y flwyddyn ganlynol) yn llai na:

  • £24,990 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 1
  • £27,295 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 2
  • £31,395 y flwyddyn ar gyfer Cynllun 4
  • £21,000 y flwyddyn ar gyfer Benthyciad Ôl-raddedig

Os yw eich cyflog blynyddol yn llai na hyn, mae’n bosibl y bydd eich cyflogwr yn dal wedi didynnu ad-daliadau. Er enghraifft, pe bai bonws yn cael ei dalu i chi sy’n eich rhoi dros y trothwy misol ar gyfer eich cynllun, byddent yn didynnu ad-daliad ar gyfer y mis hwnnw.

Ni fyddwch yn cael ad-daliad am unrhyw daliadau a wnaethoch tan ar ôl i SLC gadarnhau eich incwm blynyddol gyda CThEF. Ni fydd hyn yn digwydd tan ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Dim ond ar gyfer blynyddoedd treth sydd wedi dod i ben y gallwch ofyn am ad-daliad.

Os ydych yn ad-dalu cyfuniad o fenthyciadau Cynllun 1, Cynllun 2 a Chynllun 4, gallwch gael ad-daliad dim ond os oedd eich incwm llai na’r trothwy.

Enghraifft

 Rydych yn ad-dalu benthyciadau Cynllun 1 a Chynllun 2.

 Trothwy Cynllun 1 yw £24,990 y flwyddyn.

 Trothwy Cynllun 2 yw £27,295 y flwyddyn.

Mae trothwy Cynllun 1 yn is.

Mae hyn yn golygu mai dim ond os oedd eich incwm yn llai na throthwy Cynllun 1 (£24,990 y flwyddyn) y gallwch gael ad-daliad.

Gwiriwch pa gynllun ad-dalu ydych chi arno os nad ydych yn siŵr.

Gallwch wirio trothwyon blaenorol os gofynnwch am ad-daliad ar daliadau a wnaed cyn y flwyddyn dreth hon.

Os gwnaethoch ddechrau ad-dalu cyn bod angen

Os cymerir didyniad o’ch cyflog cyn bod rhaid i ddechrau ad-dalu, gallwch ofyn am ad-daliad.

Os oedd eich cyflogwr wedi’ch rhoi ar y cynllun ad-dalu anghywir

Gallwch gael ad-daliad os ydych ar Gynllun 2 neu Gynllun 4 ond mae eich cyflogwr wedi’ch rhoi ar gynllun arall. Sicrhewch bod eich cyflogwr wedi eich cynnwys ar y cynllun ad-dalu cywir.

Sut i ofyn am ad-daliad

Os oedd eich incwm blynyddol yn is na’r trothwy ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol

Llenwch ffurflen gais am ad-daliad a’i hanfon at SLC.

Os byddwch angen ad-daliad am unrhyw reswm arall

Ffoniwch neu cysylltwch â SLC gyda’ch cyfeirnod cwsmer.

Cysylltu â’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr

Ffôn: 0300 100 0611 (Lloegr, Gogledd Iwerddon neu’r Alban)
Ffôn: +44 (0)141 243 3660 (tu allan i’r DU)
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8am i 6pm

Ffôn: 0300 100 0370 (Cymru)
Dydd Llun i ddydd Gwener – 8am i 6pm (ddim ar agor ar wyliau banc)

Dysgwch am daliadau ar gyfer galwadau

Gallwch gysylltu â SLC drwy’r post.

Finance Department
Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf
10 Clyde Place
Glasgow
G5 8DF

8. Pan fydd eich benthyciad myfyriwr yn cael ei ddileu neu ei ganslo

Mae pryd y caiff eich benthyciad myfyriwr ei ddileu yn dibynnu ar pa gynllun ad-dalu rydych chi arno.

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn o Gymru, efallai y byddwch yn gallu cael £1,500 o’ch Benthyciad Cynhaliaeth wedi’i ddileu.

Pan fydd benthyciadau Cynllun 1 yn cael eu dileu

Mae pryd y caiff eich benthyciad Cynllun 1 ei ddileu yn dibynnu ar ba bryd y talwyd y benthyciad cyntaf ar gyfer eich cwrs.

Os talwyd y benthyciad cyntaf i chi ar neu ar ôl 1 Medi 2006

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu dileu 25 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Os talwyd y benthyciad cyntaf i chi cyn 1 Medi 2006

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu dileu pan fyddwch yn 65.

Pan fydd benthyciadau Cynllun 2 yn cael eu dileu

Mae benthyciadau Cynllun 2 yn cael eu dileu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Pan fydd benthyciadau Cynllun 4 yn cael eu dileu

Mae pryd y caiff eich benthyciad Cynllun 4 ei ddileu yn dibynnu ar ba bryd y talwyd y benthyciad cyntaf ar gyfer eich cwrs.

Os talwyd y benthyciad cyntaf i chi ar neu ar ôl Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu dileu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Os talwyd y benthyciad cyntaf i chi cyn Dydd Mercher, 1 Awst 2007

Bydd y benthyciadau ar gyfer eich cwrs yn cael eu dileu pan fyddwch yn 65 oed, neu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf – pa un bynnag ddaw gyntaf.

Pan fydd benthyciadau Cynllun 5 yn cael eu dileu

Mae benthyciadau Cynllun 5 yn cael eu dileu 40 mlynedd ar ôl yr Ebrill roeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Pan fydd Benthyciadau Ôl-raddedig yn cael eu dileu

Os ydych yn fyfyriwr o Gymru neu Loegr, bydd eich Benthyciad Ôl-raddedig yn cael ei ddileu 30 mlynedd ar ôl y mis Ebrill yr oeddech i fod i’w ad-dalu gyntaf.

Os ydych chi’n fyfyriwr ôl-raddedig o Ogledd Iwerddon, rydych chi ar Gynllun 1.

Os ydych chi’n fyfyriwr ôl-raddedig o’r Alban, rydych chi ar Gynllun 4.

Os bydd rhywun sydd â benthyciad myfyriwr yn marw

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn canslo benthyciad myfyriwr y person.

Mae angen i chi roi gwybod i SLC bod yr unigolyn wedi marw a darparu tystiolaeth (er enghraifft tystysgrif marwolaeth wreiddiol), yn ogystal â Cyfeirnod Cwsmer yr unigolyn.

Os na allwch weithio mwyach oherwydd salwch neu anabledd

Mae’n bosibl y bydd SLC yn gallu canslo’ch benthyciad os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau anabledd. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth (er enghraifft llythyr gan yr asiantaeth budd-daliadau) a’ch Cyfeirnod Cwsmer.

9. Diweddaru eich manylion cyflogaeth

Mae angen i chi ddiweddaru eich manylion os ydych yn:

  • yn gadael y DU am fwy na 3 mis

  • yn cael llythyr neu e-bost gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn gofyn i chi ddiweddaru eich manylion cyflogaeth

Mae SLC yn defnyddio’r manylion hyn i gyfrifo os dylech fod yn ad-dalu eich benthyciad.

Efallai y codir cyfradd llog uwch arnoch os na fyddwch yn diweddaru eich manylion.

Cychwyn nawr