Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni: arweiniad i gyflogwyr

Printable version

1. Trosolwg

Efallai y bydd cyflogeion yn gallu cael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP) os ydynt wedi cael baban neu wedi mabwysiadu plentyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gall cyflogeion ddechrau SPL os ydynt yn gymwys a’u bod nhw neu eu partner yn dod â’u habsenoldeb neu eu tâl mamolaeth, neu eu habsenoldeb neu eu tâl fabwysiadu i ben yn gynnar. Bydd yr absenoldeb sy’n weddill ar gael fel SPL. Mae’n bosibl y bydd y tâl sy’n weddill ar gael fel ShPP.

Gall cyflogeion gymryd SPL mewn hyd at 3 bloc ar wahân. Gallant hefyd rannu’r absenoldeb gyda’u partner os ydynt hefyd yn gymwys. Gall rhieni ddewis faint o’r SPL fyddant yn ei gymryd yr un.

Enghraifft

Mae mam a’i phartner yn gymwys i gael SPL a ShPP. Mae’r fam yn dod â’i chyfnod absenoldeb a thâl mamolaeth i ben ar ôl 12 wythnos, gan adael 40 wythnos ar gael ar gyfer SPL a 27 wythnos ar gael ar gyfer ShPP. Gall y rhieni ddewis sut i rannu hyn.

Rhaid i SPL a ShPP gael ei gymryd rhwng genedigaeth y baban a’i ben-blwydd cyntaf (neu cyn pen 1 blwyddyn o’r mabwysiad).

Mae SPL a ShPP ond ar gael yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

2. Cymhwystra

Weithiau dim ond un rhiant mewn cwpl fydd yn gymwys i gael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP). Mae hyn yn golygu na allant rannu’r absenoldeb.

Os yw’ch cyflogai’n gymwys, gall ddefnyddio SPL i archebu ei wyliau mewn blociau ar wahân.

Absenoldeb ar y Cyd i Rieni

I fod yn gymwys ar gyfer SPL, rhaid i’ch cyflogai rannu’r cyfrifoldeb am y plentyn gydag un o’r canlynol:

  • ei ŵr, gwraig, partner sifil neu fabwysiadwr ar y cyd
  • rhiant arall y plentyn
  • ei bartner (os yw’n byw gydag ef)

Rhaid i’ch cyflogai neu ei bartner fod yn gymwys i gael tâl neu absenoldeb mamolaeth, tâl neu absenoldeb mabwysiadu neu Lwfans Mamolaeth.

Mae’n rhaid i’r cyflogai hefyd:

  • dal i gael ei gyflogi gennych tra bydd yn cael SPL
  • rhoi’r rhybudd cywir i chi gan gynnwys datganiad bod ei bartner yn bodloni’r gofynion cyflogaeth ac incwm sy’n caniatáu i’ch cyflogai gael SPL
  • bod wedi cael ei gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod o’r ‘wythnos gymhwysol’, neu’r wythnos y caiff ei baru â phlentyn i’w fabwysiadu yn y DU

Yr ‘wythnos gymhwysol’ yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r baban gael ei eni.

Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni

Mae ShPP ar gael i berson sy’n gyflogai (yn agor tudalen Saesneg) ac mae un o’r canlynol yn berthnasol iddo:

Mae’r cyflogai hefyd yn gallu cael ShPP os yw’n weithiwr (yn agor tudalen Saesneg) ac yn gymwys i gael SMP neu SPP.

Gwrthod SPL neu ShPP

Gallwch wrthod SPL neu ShPP os nad yw’r cyflogai’n gymwys.

Rhaid i chi roi gwybod i’r cyflogai am y rheswm os ydych yn gwrthod ShPP. Nid oes rhaid i chi roi rheswm dros wrthod SPL.

3. Hawl

Os yw cyflogai’n gymwys a’i fod ef neu ei bartner yn dod â’i absenoldeb a thâl mamolaeth neu fabwysiadu (neu Lwfans Mamolaeth) i ben yn gynnar, gall:

  • gymryd gweddill y 52 wythnos o absenoldeb (hyd at uchafswm o 50 wythnos) fel Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL)
  • gymryd gweddill y 39 wythnos o dâl (hyd at uchafswm o 37 wythnos) fel Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP)

Rhaid i fam gymryd o leiaf 2 wythnos o absenoldeb mamolaeth ar ôl yr enedigaeth (4 os yw’n gweithio mewn ffatri).

Telir ShPP ar gyfradd o £184.03 yr wythnos neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog cyflogai, pa un bynnag sy’n is.

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun mamolaeth cwmni. Mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich polisïau o ran absenoldeb a thâl mamolaeth yn glir ac ar gael i staff.

Adennill taliadau

Hyd yn oed os ydych yn talu mwy na’r swm statudol i gyflogai, fel arfer, gallwch ond adennill 92% o’r swm hwnnw. Efallai y gallwch adennill 103% os ydych yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Darllenwch ragor am adennill tâl statudol.

4. Dechrau Absenoldeb ar y Cyd i Rieni

Er mwyn i Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) ddechrau, rhaid i’r fam neu’r mabwysiadwr wneud un o’r canlynol:

  • dod â’u habsenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben drwy ddychwelyd i’r gwaith
  • rhoi ‘hysbysiad rhwymol’ i chi (penderfyniad na ellir ei newid fel arfer) o’r dyddiad y bydd yn dod â’u habsenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben
  • dod â thâl mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth i ben (os nad oes ganddynt hawl i absenoldeb mamolaeth, er enghraifft maent yn weithiwr asiantaeth neu’n hunangyflogedig)

Rhaid i fam gymrydo o leiaf 2 wythnos o absenoldeb mamolaeth ar ôl yr enedigaeth (4 os yw’n gweithio mewn ffatri).

Rhaid i’r rhiant mabwysiadol sy’n cael Tâl Mabwysiadu Statudol gymryd o leiaf 2 wythnos o absenoldeb mabwysiadu. Gellir ei gymryd o’r dyddiad lleoli, neu hyd at 14 diwrnod cyn i’r lleoliad ddechrau.

Rhaid i’r fam roi rhybudd i chi (o leiaf 8 wythnos) i ddod â’i thâl mamolaeth i ben, neu ofyn i’r Ganolfan Byd Gwaith ddod â’i Lwfans Mamolaeth i ben. Rhaid i fabwysiadwyr roi rhybudd i chi i ddod â’u tâl mabwysiadu i ben.

Gall SPL ddechrau i’r partner tra bod y fam neu’r mabwysiadwr yn dal i fod ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu os yw wedi cael rhybudd rhwymol i ddod â’i habsenoldeb i ben (neu ei thâl os nad oes ganddi hawl i absenoldeb).

Enghraifft

Mae mam a’i phartner ill dau yn gymwys i gael SPL.

Mae’r fam yn mynd ar absenoldeb mamolaeth o 10 wythnos cyn i’w baban gael ei eni. Mae’n penderfynu y bydd yn cymryd 16 wythnos o absenoldeb mamolaeth ac yn rhoi rhybudd i chi.

Gan fod y fam wedi rhoi rhybudd rhwymol, gall ei phartner ddechrau SPL cyn gynted ag y bydd y baban wedi’i eni (cyn belled â’i fod wedi rhoi o leiaf 8 wythnos o rybudd).

Yr hyn y mae’n rhaid i’r cyflogai wneud

Rhaid i’r cyflogai roi rhybudd ysgrifenedig i chi os yw am ddechrau SPL neu Dâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP). Gall wneud hyn gan ddefnyddio ffurflenni a grëwyd gan y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas)(yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl cael y rhybudd hwn, gallwch ofyn am:

  • gopi o dystysgrif geni’r plentyn
  • enw a chyfeiriad cyflogwr y partner

Mae gennych 14 diwrnod i ofyn am yr wybodaeth hon. Yna mae gan eich cyflogai 14 diwrnod arall i’w darparu.

Cyfnod rhybudd

Rhaid i gyflogai roi o leiaf 8 wythnos o rybudd o unrhyw absenoldeb y mae’n dymuno ei gymryd. Os caiff y plentyn ei eni fwy nag 8 wythnos yn gynnar, gall y cyfnod rhybudd hwn fod yn fyrrach.

Mae gan eich cyflogai hawl statudol i uchafswm o 3 bloc o absenoldeb ar wahân, er y gallwch ganiatáu mwy os dymunwch.

Canslo’r penderfyniad i ddod ag absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben

Efallai y bydd y fam neu’r mabwysiadwr yn gallu newid ei benderfyniad i ddod â’u habsenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben yn gynnar os:

  • nad yw’r dyddiad gorffen arfaethedig wedi mynd heibio
  • nid ydynt eisoes wedi dychwelyd i’r gwaith

Rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • darganfyddir yn ystod y cyfnod rhybudd o 8 wythnos nad yw’r naill bartner na’r llall yn gymwys i gael SPL neu ShPP
  • mae partner y cyflogai wedi marw
  • mae’n llai na 6 wythnos ar ôl yr enedigaeth (a rhoddodd y fam rybudd cyn yr enedigaeth)

Absenoldeb ar y cyd i rieni - diwrnodau mewn cysylltiad (SPLIT)

Gall eich cyflogai weithio hyd at 20 diwrnod yn ystod SPL heb ddod ag ef i ben. Gelwir y rhain yn ddiwrnodau ‘absenoldeb ar y cyd i rieni cysylltiedig’ (neu SPLIT).

Mae’r dyddiau hyn yn ychwanegol at y 10 diwrnod ‘cadw mewn cysylltiad’ (neu KIT) sydd eisoes ar gael i’r rhai ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu.

Mae diwrnodau cadw mewn cysylltiad yn ddewisol - rhaid i chi a’ch cyflogai gytuno iddynt.

5. Blociau o wyliau

Gall cyflogai sy’n cymryd Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) rannu ei absenoldeb yn 3 bloc ar wahân yn hytrach na chymryd y cyfan ar yr un pryd, hyd yn oed os nad yw’n rhannu’r absenoldeb gyda’i bartner.

Os yw’r ddau riant yn cymryd SPL yna gallant gymryd eu habsenoldeb ar yr un pryd â’i gilydd neu ar wahanol adegau.

Rhaid i’r cyflogai roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i chi cyn i floc o absenoldeb ddechrau.

Rhannu blociau

Os ydych yn cytuno, gall y cyflogai rannu bloc o absenoldeb yn gyfnodau byrrach, cyn belled â’u bod o leiaf wythnos o hyd. Er enghraifft, gall y cyflogai weithio bob yn ail wythnos yn ystod bloc 12 wythnos, gan ddefnyddio cyfanswm o 6 wythnos o’i SPL.

Ni allwch wrthod cais am floc o absenoldeb os yw’r cyflogai’n gymwys ac yn rhoi’r rhybudd cywir i chi. Nid oes rhaid i chi gytuno i’r cyflogai’n torri’r bloc o absenoldeb yn gyfnodau byrrach.

6. Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EF (CThEF), gan gynnwys:

  • y dystiolaeth a ddarperir gan y cyflogai i ddangos ei fod yn gymwys ar gyfer ShPP
  • y dyddiad y dechreuodd yr ShPP
  • eich taliadau ShPP (gan gynnwys dyddiadau)
  • yr ShPP rydych wedi’i adennill
  • unrhyw wythnosau na wnaethoch dalu, a pham

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am o leiaf 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddynt.

7. Help gyda thâl statudol

Ar gyfer cymorth ariannol gyda thâl statudol, gallwch:

  • adennill taliadau (92% fel arfer)
  • gwneud cais am daliad ymlaen llaw os na allwch fforddio taliadau