Dirprwyon: gwneud penderfyniadau dros rywun sydd heb allu

Printable version

1. Trosolwg

Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy i rywun sydd ‘heb alluedd meddyliol’. Mae hyn yn golygu na allant wneud penderfyniad drostynt eu hunain ar yr adeg y mae angen ei wneud. Efallai y byddant dal yn gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain ar adegau penodol.

Efallai nad oes gan bobl alluedd meddyliol oherwydd, er enghraifft:

  • maent wedi cael anaf neu salwch ymennydd difrifol
  • mae ganddynt ddementia
  • mae ganddynt anableddau dysgu difrifol

Fel dirprwy, cewch eich awdurdodi gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Mathau o ddirprwy

Mae 2 fath o ddirprwy.

Dirprwy eiddo a materion ariannol

Byddwch yn gwneud pethau fel talu biliau’r unigolyn neu drefnu eu pensiwn.

Dirprwy lles personol

Byddwch yn gwneud penderfyniadau am driniaeth feddygol a sut mae rhywun yn cael gofal.

Ni allwch fod yn ddirprwy lles personol i rywun os ydynt yn iau na 16 oed. Ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych chi’n credu bod angen i’r llys wneud penderfyniad am eu gofal.

Gan amlaf, dim ond yn y sefyllfaoedd canlynol y bydd y llys yn penodi dirprwy lles personol:

  • mae amheuaeth a fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud er lles gorau rhywun, er enghraifft oherwydd bod y teulu’n anghytuno ynghylch gofal
  • mae angen penodi rhywun i wneud penderfyniadau am fater penodol dros amser, er enghraifft lle bydd rhywun yn byw

Darllenwch y canllawiau llawn ynghylch pryd mae angen i chi wneud cais lles personol.

Bod yn ddirprwy

Gallwch wneud cais i fod yn ddim ond un math o ddirprwy neu’r ddau. Os cewch eich penodi, cewch orchymyn llys i ddweud beth allwch a beth na allwch ei wneud.

Pan fyddwch yn ddirprwy, rhaid i chi anfon adroddiad dirprwy blynyddol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) bob blwyddyn yn esbonio’r penderfyniadau rydych wedi’u gwneud.

Sut i wneud cais

Gwiriwch eich bod yn diwallu’r gofynion i fod yn ddirprwy.

Mae’r broses gwneud cais yn wahanol yn ddibynnol ar p’un ydych yn:

Bydd angen i chi hefyd dalu ffi gwneud cais.

Nid oes angen i chi fod yn ddirprwy os ydych ond yn gofalu am fudd-daliadau rhywun. Yn hytrach, gwnewch gais i fod yn benodai.

Gwirio eich cais

Bydd y Llys Gwarchod yn gwirio:

Os cewch eich penodi, bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn eich helpu i gyflawni eich cyfrifoldebau.

Byddwch yn parhau i fod yn ddirprwy nes bydd eich gorchymyn llys yn cael ei newid, ei ganslo neu’n dod i ben.

Ffyrdd eraill o wneud penderfyniadau i rywun

Os ydych am wneud un penderfyniad pwysig, gallwch wneud cais i’r Llys Gwarchod am orchymyn untro.

Os oes gan yr unigolyn atwrneiaeth arhosol (LPA) neu atwrneiaeth barhaus (EPA) yn barod, yna ni fyddant, fel arfer, angen dirprwy. Gwiriwch a oes ganddynt LPA neu EPA cyn i chi wneud cais.

2. Pwy all wneud cais i fod yn ddirprwy

Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn. Fel arfer, mae dirprwyon yn berthnasau agos neu’n ffrindiau i’r unigolyn sydd angen help i wneud penderfyniadau.

Os ydych eisiau gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol, mae angen i chi feddu ar y sgiliau i wneud penderfyniadau ariannol i rywun arall.

Gall y llys benodi 2 ddirprwy neu fwy ar gyfer yr un unigolyn.

Pan fydd mwy nag un dirprwy

Pan fyddwch yn gwneud cais, dywedwch wrth y llys sut byddwch yn gwneud penderfyniadau os nad chi yw’r unig ddirprwy. Bydd hyn naill ai:

  • gyda’ch gilydd (‘dirprwy ar y cyd’), sy’n golygu bod rhaid i’r holl ddirprwyon gytuno ar y penderfyniad
  • ar wahân neu gyda’ch gilydd (‘ar y cyd ac yn unigol’), sy’n golygu y gall dirprwyon wneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain neu gyda dirprwyon eraill

Mathau eraill o ddirprwy

Mae rhai pobl yn cael eu talu i weithredu fel dirprwyon, er enghraifft cyfrifwyr, cyfreithwyr neu gynrychiolwyr awdurdod lleol.

Gall y Llys Gwarchod benodi dirprwy arbenigol (a elwir yn ‘ddirprwy panel’) o restr o gwmnïau cyfreithiol ac elusennau cymeradwy os nad oes unrhyw un arall ar gael.

3. Cyfrifoldebau

Fel dirprwy, rydych chi’n gyfrifol am helpu rhywun i wneud penderfyniadau neu wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Rhaid i chi ystyried lefel gallu meddyliol rhywun bob tro y byddwch yn gwneud penderfyniad drostyn nhw - ni allwch dybio ei fod yr un peth bob amser ac ar gyfer pob math o bethau.

Fe gewch orchymyn llys gan y Llys Gwarchod yn dweud beth allwch a beth na allwch ei wneud. Mae yna hefyd reolau ac enghreifftiau cyffredinol yng Nghod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a bydd angen ichi fodloni’r safonau i ddirprwyon.

Canllawiau i bob dirprwy

Pan fyddwch yn gwneud penderfyniad, rhaid i chi:

  • wneud yn siŵr ei fod er budd gorau’r unigolyn arall
  • ystyried beth maent wedi’i wneud yn y gorffennol
  • defnyddio gofal o safon uchel - gallai hyn olygu cynnwys pobl eraill, er enghraifft cael cyngor gan berthnasau a gweithwyr proffesiynol fel meddygon
  • gwneud popeth o fewn eich gallu i helpu’r unigolyn arall i ddeall y penderfyniad, er enghraifft esbonio beth fydd yn digwydd gyda chymorth lluniau neu iaith arwyddion
  • cynnwys manylion y penderfyniadau yn eich adroddiad dirprwy blynyddol

Rhaid i chi beidio ag:

  • atal yr unigolyn, oni bai ei fod i’w atal rhag cael niwed
  • atal triniaeth feddygol sy’n cynnal bywyd
  • manteisio ar sefyllfa’r unigolyn, er enghraifft eu cam-drin neu elwa o benderfyniad rydych wedi’i wneud ar eu rhan
  • gwneud ewyllys i’r unigolyn, neu newid ei ewyllys bresennol
  • rhoi rhoddion oni bai bod y gorchymyn llys yn dweud y gallwch wneud hyn
  • cadw unrhyw arian neu eiddo yn eich enw eich hun ar ran yr unigolyn

Dirprwyon eiddo a materion ariannol

Rhaid i chi sicrhau:

  • bod eich eiddo a’ch arian eich hun ar wahân i eiddo ac arian yr unigolyn arall
  • eich bod yn cadw cofnodion o’r materion ariannol rydych yn eu rheoli ar eu rhan yn eich adroddiad dirprwy blynyddol

Efallai y bydd angen i chi reoli cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys ar ran yr unigolyn arall.

Gallech gael dirwy neu eich anfon i’r carchar am hyd at 5 mlynedd (neu’r ddau) os ydych yn cam-drin neu’n esgeuluso’r unigolyn ar bwrpas.

4. Gwneud cais i fod yn ddirprwy lles personol

Bydd angen i chi lawrlwytho a llenwi pob un o’r canlynol:

Rhaid i chi enwi o leiaf 3 unigolyn yn eich cais sy’n adnabod yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt. Er enghraifft, eu perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg.

Efallai na fydd y llys yn derbyn eich cais os na fyddwch yn anfon y ffurflen ‘asesu galluedd’ (COP3).

Os na allwch gael asesiad, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi datganiad tyst (COP24) i egluro pam rydych chi’n meddwl nad oes gan yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais ar ei gyfer alluedd meddyliol.

Dylech gadw copi o bob ffurflen rydych yn ei llenwi.

Ble i anfon eich ffurflenni

Anfonwch y ffurflenni, gan gynnwys 2 gopi o’r ffurflen gais (COP1), i’r Llys Gwarchod gyda siec am y ffi gwneud cais.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Dweud wrth y bobl a enwir yn eich cais

Bydd y llys yn anelu at anfon copi wedi’i stampio o’ch cais atoch o fewn wythnos i’w gael. Golyga hyn bod eich cais yn cael ei ystyried (mae wedi’i ‘gychwyn’). Anfonir llythyr atoch yn egluro beth i’w wneud nesaf.

Cyn pen 14 diwrnod i’r cais gael ei gychwyn, rhaid i chi ddweud (a elwir weithiau’n ‘cyflwyno’) wrth y bobl ganlynol:

  • yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
  • o leiaf 3 o’r bobl a enwir yn eich cais fel rhai sydd â diddordeb, er enghraifft perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg yr unigolyn

Os na allwch ddweud wrth 3 o bobl, yna dylech anfon datganiad tyst (COP24).

Dweud wrth yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt

Rhaid i chi neu’ch cynrychiolydd ymweld â’r unigolyn a dweud wrthynt:

  • pwy sy’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
  • bod eu gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei gwestiynu
  • beth fyddai cael dirprwy yn ei olygu iddynt
  • ble i gael cyngor os ydynt eisiau trafod y cais

Yn ystod yr ymweliad rhowch iddynt:

Dweud wrth bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais

Rhaid i chi ddweud wrth 3 o bobl a enwir ar eich cais ei fod wedi’i gychwyn.

Anfonwch atynt:

Gallwch ddweud wrthynt am y cais:

  • drwy’r post i’w cyfeiriad cartref
  • drwy e-bost
  • wyneb yn wyneb

Cadarnhau eich bod wedi dweud wrth bobl (‘cyflwyno rhybudd’)

Cyn pen 7 diwrnod ar ôl cyflwyno’r dogfennau, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi’r ffurflenni perthnasol (a elwir weithiau’n ‘tystysgrifau cyflwyno’) i gadarnhau eich bod wedi dweud wrth:

Anfonwch nhw gyda’i gilydd i’r Llys Gwarchod.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Ar ôl i’ch cais gael ei adolygu

Ni fydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais tan 14 diwrnod ar ôl i chi ddweud wrth y bobl eraill sy’n ymwneud â’r cais er mwyn rhoi cyfle iddynt ei wrthwynebu.

Yna bydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais ac yn dweud wrthych:

  • os yw eich cais wedi’i gymeradwyo neu ei wrthod
  • os ydych angen sefydlu bond diogelwch cyn y gellir eich penodi
  • os oes rhaid ichi ddarparu mwy o wybodaeth i gefnogi eich cais, er enghraifft, adroddiad gan y gwasanaethau cymdeithasol
  • os yw’n mynd i drefnu gwrandawiad i gael mwy o wybodaeth, er enghraifft, os yw rhywun wedi gwrthwynebu’r cais

Os gofynnir ichi fynychu gwrandawiad

Fe gewch hysbysiad o wrandawiad a fydd yn nodi dyddiad y gwrandawiad os bydd y llys yn penderfynu bod angen cynnal un. Mae’n rhaid i chi ymweld â’r unigolyn yr ydych eisiau fod yn ddirprwy iddynt a dweud wrthynt amdano:

  • o fewn 14 diwrnod ichi gael yr hysbysiad
  • o leiaf 14 diwrnod cyn dyddiad y gwrandawiad

Rhowch ffurflen hysbysiad o achos (COP14) wedi’i llenwi iddynt. Defnyddiwch y nodiadau canllaw i’w llenwi.

Rhaid i chi egluro y gallant gysylltu â staff y Llys Gwarchod i gael cyngor a chymorth.

Pan fyddwch wedi dweud wrthynt, anfonwch dystysgrif cyflwyno (COP20A) i’r Llys Gwarchod o fewn 7 diwrnod.

Bydd rhaid i chi dalu ffi os bydd y llys yn gwneud penderfyniad terfynol yn y gwrandawiad.

Mae’r canllawiau yn egluro beth i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad Y Llys Gwarchod.

5. Gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol

I wneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol mae arnoch angen:

  1. Dweud wrth yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt a gofyn iddynt lenwi’r ffurflenni perthnasol.

  2. Dweud wrth o leiaf 3 unigolyn sy’n gysylltiedig â’ch cais a gofyn iddynt lenwi’r ffurflenni perthnasol.

  3. Llenwi’r ffurflenni sy’n weddill.

  4. Cyflwyno’r ffurflenni ar-lein neu eu hanfon drwy’r post.

Dweud wrth yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt

Rhaid i chi neu’ch cynrychiolydd ymweld â’r unigolyn a dweud wrthynt:

  • pwy sy’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
  • bod eu gallu i wneud penderfyniadau yn cael ei gwestiynu
  • beth fyddai cael dirprwy yn ei olygu iddynt
  • ble i gael cyngor os ydynt eisiau trafod y cais

Yn ystod yr ymweliad mae’n rhaid i chi roi iddynt:

  • y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) - bydd angen i chi lenwi adrannau hysbysu’r ffurflen ac fe allan nhw lenwi’r adran gydnabod os ydynt yn gallu
  • ffurflen gydnabod (COP5) - os ydynt yn gallu, bydd angen iddynt lenwi’r ffurflen hon os ydynt am wrthwynebu’r cais neu ddarparu tystiolaeth yn ei erbyn
  • unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’ch cais

Os ydynt yn gallu, dylent lenwi’r ffurflen o fewn 14 diwrnod. Os nad ydynt yn gallu, yna fe allwch anfon y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep) yn ôl gyda’r adrannau hysbysu’n unig wedi’u llenwi.

Dweud wrth bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais

Rhaid i chi ddweud wrth o leiaf 3 unigolyn sy’n adnabod yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt am eich cais. Er enghraifft, perthnasau, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg yr unigolyn.

Anfonwch atynt:

Gallwch ddweud wrthynt:

  • drwy’r post i’w cyfeiriad cartref
  • drwy e-bost
  • wyneb yn wyneb

Os na allwch ddweud wrth 3 o bobl, yna dylech anfon datganiad tyst (COP24) i’r Llys Gwarchod gyda’ch ffurflenni eraill.

Mae angen iddynt ddychwelyd y ffurflenni i chi o fewn 14 diwrnod iddynt eu cael. Os na fyddwch wedi cael y ffurflenni ar ôl 14 diwrnod, yna gallwch wneud cais hebddynt.

Ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi

Mae’r ffurflenni y mae angen i chi eu llenwi yn dibynnu ar p’un a ydych yn cyflwyno’r ffurflenni ar-lein neu drwy’r post.

Mae’n rhaid i chi lenwi ac anfon y ffurflenni o fewn 3 mis ichi ddweud wrth y bobl sy’n gysylltiedig â’ch cais. Os na fyddwch yn gwneud hyn, yna bydd rhaid i chi ail-ddechrau’r broses.

Dylech gadw copi o bob ffurflen rydych yn ei llenwi ar gyfer eich cofnodion.

Mae angen i bob ceisydd lenwi:

Efallai na fydd y llys yn derbyn eich cais os na fyddwch yn anfon y ffurflen ‘asesu galluedd’ (COP3).

Os na allwch gael asesiad, rhaid i chi lawrlwytho a llenwi datganiad tyst (COP24) i egluro pam rydych chi’n meddwl nad oes gan yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais ar ei gyfer alluedd meddyliol.

Os ydych yn cyflwyno ffurflenni ar-lein

Os bu i’ch cynrychiolydd hysbysu’r unigolyn am eich cais, yna bydd angen i chi gyflwyno y ffurflen hysbysu a chydnabod cais (COP14PADep).

Os bu ichi hysbysu’r unigolyn am eich cais eich hun, yna nid oes angen i chi gyflwyno unrhyw ffurflenni ychwanegol.

Os ydych yn cyflwyno ffurflenni drwy’r post

Bydd angen i chi hefyd anfon:

Cyflwyno eich ffurflenni ar-lein

Byddwch angen cerdyn debyd neu gredyd i dalu’r ffi. Mwy o wybodaeth am faint fydd angen i chi dalu.

Dechrau nawr

Cyflwyno eich ffurflenni drwy’r post

Anfonwch y ffurflenni i’r Llys Gwarchod gyda siec am y ffi gwneud cais. Mwy o wybodaeth am faint fydd angen i chi dalu.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Ar ôl i chi wneud cais

Bydd y Llys Gwarchod yn adolygu eich cais ac yn dweud wrthych:

Gan amlaf, ni chynhelir gwrandawiad ar gyfer ceisiadau i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol. Os bydd un, yna bydd rhaid i chi dalu ffi. Darganfyddwch faint fyddwch angen talu.

Mae’r canllawiau yn egluro beth i’w ddisgwyl mewn gwrandawiad y Llys Gwarchod.

Os bydd angen help neu gymorth arnoch

Gallwch gysylltu â’r Llys Gwarchod.

Y Llys Gwarchod
courtofprotectionenquiries@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 456 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

6. Ffioedd

Mae’n rhaid ichi dalu:

  • ffi i wneud cais i fod yn ddirprwy
  • ffi oruchwylio bob blwyddyn ar ôl i chi gael eich penodi

Efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu i sefydlu ‘bond diogelwch’ cyn y gellir eich penodi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais

Rhaid i chi dalu ffi gwneud cais o £408.

Os ydych yn cyflwyno’ch ffurflenni drwy’r post, dylech gynnwys siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’.

Os ydych yn cyflwyno’ch ffurflenni ar-lein, gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Bydd angen i chi dalu’r ffi gwneud cais ddwywaith os ydych yn gwneud cais i ddod yn ddau fath o ddirprwy.

Bydd angen i chi hefyd dalu £494 os bydd y llys yn penderfynu bod angen i’ch achos gael ei wrando mewn gwrandawiad. Bydd y llys yn dweud wrthych pa bryd fydd angen i chi dalu’r ffi hon.

Bondiau diogelwch ar gyfer dirprwyon eiddo a materion ariannol

Efallai y bydd rhaid i chi dalu i sefydlu ‘bond diogelwch’ cyn y gellir eich penodi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol. Mae hwn yn fath o yswiriant sy’n amddiffyn arian yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt.

Nid oes rhaid i chi sefydlu bond os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cynrychioli awdurdod lleol
  • mae’r llys yn penderfynu nad yw’n angenrheidiol, er enghraifft os yw gwerth ystad yr unigolyn yn isel

Os oes angen i chi sefydlu un, fe gewch lythyr gan y llys yn dweud hyn wrthych. Bydd y llythyr yn egluro beth i’w wneud nesaf.

Byddwch yn sefydlu’r bond gyda darparwr bond diogelwch. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar:

  • werth ystad yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt
  • faint o’u hystad rydych chi’n ei reoli

Gallwch ei dalu naill ai:

  • gan ddefnyddio arian yr unigolyn
  • eich hun - gallwch gael yr arian yn ôl o ystad yr unigolyn ar ôl i chi gael mynediad iddo

Efallai y cewch eich erlyn os byddwch yn camddefnyddio arian yr unigolyn.

Ar ôl i chi gael eich penodi

Rhaid i chi dalu ffi oruchwylio flynyddol yn dibynnu ar ba lefel o oruchwyliaeth sydd ei hangen ar eich dirprwyaeth. Bydd angen ichi dalu:

  • £320 am oruchwyliaeth gyffredinol
  • £35 am oruchwyliaeth is - mae hyn yn berthnasol i rai dirprwyon eiddo a materion ariannol sy’n rheoli llai na £21,000

Bydd eich ffi oruchwylio flynyddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn ddyledus ar 31 Mawrth.

Bydd angen i chi hefyd dalu ffi asesu o £100 os ydych chi’n ddirprwy newydd.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dweud wrthych sut a phryd i dalu’ch ffioedd asesu a goruchwylio.

Efallai y gallwch hawlio ad-daliad o’ch ffioedd mewn rhai sefyllfaoedd.

Cael help gyda’ch ffi gwneud cais

Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi gwneud cais yn dibynnu ar:

  • y math o ddirprwy rydych chi’n gwneud cais i fod
  • faint o arian sydd gennych chi neu’r unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
Math o ddirprwy Arian pwy fydd yn cael ei asesu
Eiddo a materion ariannol Nhw
Lles personol Chi

Mae’r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am gael help gyda’ch ffioedd.

Gallwch hawlio’r ffi yn ôl o gronfeydd yr unigolyn rydych am fod yn ddirprwy iddynt os ydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol.

Ad-delir y ffi os bydd yr unigolyn yn marw cyn pen 5 diwrnod ar ôl i’r Llys Gwarchod dderbyn y cais.

Help gyda’ch ffioedd goruchwylio

Gallwch wneud cais am esemptiad neu ostyngiad yn y ffi os yw’r unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt yn cael budd-daliadau penodol neu os yw ei incwm yn llai na £12,000. Darllenwch y canllawiau a ddaw gyda’r ffurflen a gwnewch gais os yw’r unigolyn yn bodloni’r gofynion. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os bydd yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt yn marw, byddwch yn talu’r ffi oruchwylio am y rhan o’r flwyddyn pan wnaethoch weithredu fel dirprwy. Er enghraifft, bydd rhaid i chi dalu £17.50 os daw eich dirprwyaeth oruchwylio is i ben ar ôl 6 mis.

7. Pan gewch eich penodi

Anfonir ‘gorchymyn llys’ atoch yn dweud wrthych beth y gallwch ac na allwch ei wneud fel dirprwy. Pan fyddwch wedi’i gael, gallwch ddechrau gweithredu ar ran yr unigolyn.

Anfonir y gorchymyn llys atoch:

  • cyn gynted ag y cewch eich penodi - os ydych chi’n ddirprwy lles personol
  • ar ôl i chi sefydlu bond diogelwch - os ydych chi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol a bod y llys wedi gofyn i chi wneud hyn

Bydd angen gorchymyn llys ar wahân arnoch cyn y gallwch:

Gwiriwch y gorchymyn llys. Os oes unrhyw gamgymeriadau, lawrlwythwch a llenwch ffurflen COP9 gyda’r manylion a’i hanfon i’r llys cyn pen 21 diwrnod ar ôl ichi gael y gorchymyn llys. Nid oes unrhyw ffi i’w thalu.

Dweud wrth bobl a sefydliadau eich bod yn ddirprwy

Fe gewch gopïau swyddogol o’r gorchymyn llys i’w hanfon at fanciau a chymdeithasau adeiladu, er enghraifft. Mae’r rhain yn profi eich bod yn gweithredu ar ran yr unigolyn arall. Pan anfonwch gopi swyddogol, gofynnwch iddo gael ei ddychwelyd.

Gallwch archebu copïau ychwanegol o’r gorchymyn llys trwy ysgrifennu at y Llys Gwarchod. Maent yn costio £5 yr un.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Dechrau rheoli cyfrif banc

Cyn y gallwch reoli cyfrif, rhaid i chi ddangos i’r banc:

  • y gorchymyn llys gwreiddiol, neu gopi swyddogol ohono
  • prawf o’ch enw, er enghraifft eich pasbort neu’ch trwydded yrru
  • prawf o’ch cyfeiriad, er enghraifft bil nwy, trydan neu dreth y cyngor, neu lythyr gan adran o’r llywodraeth
  • prawf o enw neu gyfeiriad yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt - os nad yw’r manylion yr un fath â manylion y cyfrif banc

Cyfrifon Swyddfa Cronfeydd Llys

Os oes gan yr unigolyn rydych chi’n dirprwy ar ei gyfer arian mewn cyfrif Swyddfa Cronfeydd Llys, anfonir gwybodaeth atoch ynglŷn â sut i gael mynediad ato.

Gallwch hefyd wneud cais i agor cyfrif gyda’r Swyddfa Cronfeydd Llys os ydych chi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol a’i fod er budd gorau’r unigolyn.

Cofnodi eich penderfyniadau a’ch trafodion

Gallwch gychwyn eich adroddiad dirprwy blynyddol i gofnodi eich penderfyniadau a’ch trafodion, fel talu biliau.

8. Goruchwylio, cefnogi ac ymweliadau

Fel dirprwy, byddwch yn cael eich goruchwylio gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG). Maent wedi’u hawdurdodi i gysylltu â chi neu ymweld â chi i wirio eich bod yn bodloni eu safonau i ddirprwyon. Gallant hefyd roi cyngor a chefnogaeth i chi.

Os byddwch yn methu â bodloni eu safonau, efallai y bydd OPG yn gofyn i’r llys eich atal rhag bod yn ddirprwy.

Sut y cewch eich goruchwylio

Mae pob dirprwy newydd yn cael lefel ‘gyffredinol’ o oruchwyliaeth yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Ar ôl hynny, os ydych chi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol, byddwch yn symud i oruchwyliaeth is os:

  • yw’r swm rydych yn ei reoli yn llai na £21,000
  • nid oes angen lefel gyffredinol o oruchwyliaeth arnoch mwyach

Byddwch yn talu ffi is ac yn gorfod ysgrifennu adroddiad dirprwy blynyddol byrrach na dirprwyon sydd â goruchwyliaeth gyffredinol.

Ymweliadau goruchwylio

Efallai y bydd swyddog o’r Llys Gwarchod yn ymweld â chi i wirio a ydych chi:

  • yn deall eich dyletswyddau
  • yn cael y lefel gywir o gefnogaeth gan OPG
  • yn cyflawni eich dyletswyddau yn briodol
  • yn cael eich ymchwilio oherwydd cwyn

Bydd y swyddog yn ffonio i drefnu’r ymweliad ac yn egluro pam eu bod yn ymweld.

Cysylltu â’r OPG

Dywedwch wrth OPG os ydych chi’n bwriadu gwneud penderfyniad pwysig, er enghraifft rydych am werthu eiddo’r unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt fel y gallant symud i gartref gofal.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 456 0300
Ffôn Testun: 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus/Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH

9. Cyfrifon, rhoddion a threuliau

Rhaid i chi gadw cyfrifon a dilyn y rheolau ar gyfer rhoddion a threuliau os ydych chi’n gweithredu fel dirprwy i rywun arall. Rhaid i chi hefyd gofnodi’r trafodion yn eich adroddiad dirprwy blynyddol.

Cyfrifon

Fel dirprwy eiddo a materion ariannol, rhaid i chi gadw copïau o:

  • gyfriflenni banc
  • contractau ar gyfer gwasanaethau neu grefftwyr
  • derbynebau
  • llythyrau a negeseuon e-bost am eich gweithgareddau fel dirprwy

Rhoddion

Bydd eich gorchymyn llys yn dweud a allwch brynu anrhegion neu roi rhoddion neu arian ar ran yr unigolyn arall, gan gynnwys rhoddion i elusennau. Bydd hefyd yn dweud a oes terfyn blynyddol ar faint o arian y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer rhoddion.

Rhaid i roddion fod yn rhesymol. Mae angen i chi sicrhau nad yw unrhyw roddion yn lleihau lefel y gofal y gall yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt ei fforddio.

Rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os ydych eisiau gwneud rhodd mawr untro at ddibenion Treth Etifeddiant, er enghraifft.

Treuliau

Gallwch hawlio treuliau am bethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni eich rôl fel dirprwy, er enghraifft galwadau ffôn, costau postio a theithio. Ni allwch hawlio:

  • costau teithio ar gyfer ymweliadau cymdeithasol
  • am yr amser a dreulir yn cyflawni eich dyletswyddau (oni bai eich bod yn ddirprwy proffesiynol, er enghraifft cyfreithiwr)

Efallai y gofynnir i chi baratoi adroddiad manwl o’r hyn y gwnaethoch ei wario. Bydd rhaid i chi dalu’r arian yn ôl os bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn canfod bod eich treuliau yn afresymol. Efallai y byddant yn gofyn i’r llys eich atal rhag bod yn ddirprwy os ydynt yn credu eich bod wedi bod yn anonest.

10. Cwblhau eich adroddiad dirprwy

Rhaid i chi baratoi adroddiad bob blwyddyn yn esbonio’r penderfyniadau rydych wedi’u gwneud fel dirprwy. Efallai y gofynnir ichi wneud hyn yn amlach os oes angen gwybodaeth ychwanegol ar Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Efallai y bydd angen i chi baratoi adroddiad terfynol hefyd os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn ddirprwy.

Os ydych yn awdurdod cyhoeddus neu’n ddirprwy proffesiynol sy’n defnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf, mae angen i chi gysylltu â’ch rheolwr achos i gofrestru yn gyntaf. Os ydych chi’n ddirprwy i ffrind neu aelod o’r teulu, gallwch greu cyfrif ar-lein.

Dechrau nawr

Neu gallwch lawrlwytho a llenwi ffurflen adroddiad blynyddol bapur. Mae’r cyfeiriad y mae angen i chi ei hanfon ato ar y ffurflen.

Beth i’w gynnwys

Rhaid i’ch adroddiad gynnwys:

  • y rhesymau dros eich penderfyniadau a pham eu bod er budd gorau’r unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt
  • gyda phwy y gwnaethoch siarad a pham bod yr hyn y gwnaethant ddweud er budd pennaf yr unigolyn
  • manylion ariannol yr unigolyn os mai chi yw ei ddirprwy eiddo a materion ariannol

Bydd yr OPG yn dweud wrthych pryd dylech ei anfon.

Os na anfonwch yr adroddiad, gallai’r OPG:

  • gynyddu lefel eich goruchwyliaeth
  • gofyn i’r llys drefnu dirprwy gwahanol yn eich lle

11. Newid eich dirprwyaeth neu wneud penderfyniad untro

Rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os oes rhaid i chi:

  • adnewyddu eich dirprwyaeth
  • newid eich dirprwyaeth, er enghraifft gwneud penderfyniadau sydd ddim yn y gorchymyn gwreiddiol
  • gwneud penderfyniad untro am rywbeth nad yw’n rhan o’ch gorchymyn llys

Sut i wneud cais

Lawrlwythwch a llenwch:

Dylai eich datganiad tyst gynnwys:

  • cyfanswm incwm blynyddol yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy ar ei gyfer gan gynnwys pensiynau
  • crynodeb o’u hasedau, er enghraifft balansau cyfrifon banc, cynilion, buddsoddiadau
  • manylion yr eiddo maent yn berchennog arno
  • cost flynyddol eu gofal ac eitemau rheolaidd eraill o wariant mawr
  • gwerth y bond diogelwch a osodwyd gan y llys
  • disgrifiad o’r amgylchiadau sydd wedi arwain at wneud y cais

Anfonwch i’r Llys Gwarchod:

  • y ffurflenni wedi’u llenwi
  • siec am y ffi gwneud cais - £408 - yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’

Gallwch wneud cais am help i dalu’r ffi os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu ar incwm isel.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Os oes angen help arnoch i newid eich dirprwyaeth, ffoniwch y Llys Gwarchod.

Y Llys Gwarchod
Rhif ffôn: 0300 456 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Beth fydd yn digwydd nesaf

Efallai y bydd rhaid i chi hysbysu pobl eraill am y newid i’r gorchymyn llys os bydd y llys yn dweud wrthych am wneud hynny.

Gallant wrthwynebu neu ofyn i’r llys ailystyried unrhyw newidiadau arfaethedig nad ydynt yn cytuno â nhw. Gallant wneud hyn:

  • cyn i’r gorchymyn llys gael ei gyhoeddi
  • hyd at 21 diwrnod ar ôl cyhoeddi’r gorchymyn llys

12. Dod â’ch dirprwyaeth i ben

Os nad ydych chi eisiau neu angen bod yn ddirprwy mwyach, lawrlwythwch a llenwch y rhybudd gwneud cais (COP1) a’i anfon i’r Llys Gwarchod.

Os yw galluedd meddyliol yr unigolyn wedi gwella, lawrlwythwch a llenwch ffurflen COP 9. Anfonwch y ffurflen i’r Llys Gwarchod gydag unrhyw dystiolaeth ategol, er enghraifft llythyr meddyg.

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA

Ni allwch roi’r gorau i fod yn ddirprwy nes y cewch y gorchymyn perthnasol gan y llys.

Os bydd yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt yn marw

Cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) a’r Llys Gwarchod i ddweud wrthynt fod yr unigolyn wedi marw.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 456 0300
Ffôn Testun: 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Y Llys Gwarchod
courtofprotectionenquiries@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 456 4600
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Efallai y cewch lythyr gan yr OPG yn gofyn i chi anfon tystiolaeth bod yr unigolyn wedi marw, er enghraifft, tystysgrif marwolaeth. Gallwch wirio’r rhestr o dystiolaeth y mae’r OPG yn ei derbyn.

Bydd eich bond diogelwch yn parhau mewn grym am 2 flynedd ar ôl marwolaeth yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt oni bai bod gorchymyn llys yn ei ganslo.

Cysylltwch â Swyddfa Cronfeydd y Llys os oedd gan yr unigolyn yr oeddech yn ddirprwy iddynt gyfrif gyda nhw.

Darllenwch fwy am sut i fod yn ddirprwy.